Ymunwch â ni ddydd Iau 13 Chwefror 2025 ar gyfer ein Diwrnod Gwybodaeth am ddim yng Ngogledd Cymru ar gyfer oedolion sy’n byw gyda chyflwr sy’n nychu’r cyhyrau. / Join us on Thursday 13 February 2025 for our free Information Day in North Wales for adults living with a muscle wasting condition.
Diwrnod Gwybodaeth Cymru (Llandudno) / Wales Information Day (Llandudno)

Cewch glywed gan arbenigwyr am amrywiaeth o bynciau gwahanol, dysgwch fwy am y cyngor a’r cymorth a gynigiwn a chwrdd â phobl eraill sydd wedi’u heffeithio gan gyflyrau sy’n nychu neu’n gwanhau’r cyhyrau.
Nid yn unig yw’r digwyddiad hwn yn ffordd wych o gael gwybodaeth arbenigol a chymorth, mae’n gyfle i gysylltu ag eraill sydd â chyflwr sy’n nychu neu’n gwanhau’r cyhyrau a rhannu eich profiadau, eich awgrymiadau a’ch cyngor eich hun.
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i:
- Gwrdd â’n tîm a chlywed am y cyngor a’r cymorth rydym yn eu cynnig
- Cysylltu ag eraill sydd â chyflwr sy’n nychu neu’n gwanhau’r cyhyrau
- Rhannu eich profiadau, eich awgrymiadau a’ch cyngor eich hun
- Siarad â sefydliadau eraill
Mae’r diwrnod gwybodaeth hwn yn agored i unrhyw un sy’n byw yng Ngogledd Cymru a’r ardal gyfagos. Sylwch y bydd y pynciau a drafodir yn ystod y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar gymorth a gwasanaethau sydd ar gael yng Ngogledd Cymru.
Diwrnod Gwybodaeth (Cymru)
Llenwch eich manylion fel y gwestai arweiniol, ac os ydych chi’n dod ag eraill, dewiswch yr opsiwn “Ychwanegu Gwestai” i gynnwys eu henwau a’u gwybodaeth. Nodwch y gall pob gwestai arweiniol gofrestru hyd at 4 o westeion ar un ffurflen.
Manylion
Dyddiad: Dydd Iau 13 Chwefror 2025
Amser: 10:30
Hear from experts about a range of different topics, find out more about the advice and support we offer and meet other people affected by muscle wasting and weakening conditions.
This event is not only a great way to get expert information and support, it’s a chance to connect with others who have a muscle wasting or weakening condition and share your own experience, tips and advice.
You’ll also have the opportunity to:
- Meet our team and hear about the advice and support we offer
- Connect with others who have a muscle wasting or weakening condition
- Share your own experience, tips, and advice
- Talk to other organisations
This information day is open to anyone living in North Wales and the surrounding area. Please note that topics covered during this event will focus on support and services available in North Wales.